Mae Artichoke yn ymwybodol iawn o ddatganiadau gwrthsemitaidd Roald Dahl ac yn eu condemnio’n ddiamod. Mae ei deulu ac RDSC wedi ymddiheuro’n gyhoeddus am y datganiadau hyn.
Nid ydym yn bwriadu bychanu’r hanes hwnnw yng nghyd-destun y prosiect hwn. Fel elusen sy’n atebol i’r cyhoedd ac sy’n gweithio gyda phlant, cymunedau a phartneriaid cenedlaethol, rydym yn cymryd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o ddifri ac rydym yn gwrthod hiliaeth wrth-Iddewig. Mae’r artistiaid a’r contractwyr rydym yn gweithio gyda nhw yn glynu wrth ein polisi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae staff Artichoke wedi cael hyfforddiant gwrthsemitiaeth fel rhan o’r paratoadau ar gyfer y prosiect hwn.
Mae prosiect Breuddwydion Enfawr wedi’i ysbrydoli gan y Cawr Mawr Mwyn gan Roald Dahl, ac mae’n canolbwyntio ar blant, ac ar lythrennedd, goddefgarwch a chydlyniant cymdeithasol. Gellir defnyddio llenyddiaeth, adrodd straeon a diwylliant i hyrwyddo cymryd rhan, empathi a gwerthoedd dinesig a rennir. Gan roi cyfle i bobl ifanc ddeall y niwed a achosir gan wrthsemitiaeth yr awdur, byddwn yn mynd i’r afael â goddefgarwch, empathi a gwerthoedd dinesig a rennir yn uniongyrchol drwy ein gwaith mewn ysgolion, yn y gymuned ac yn y digwyddiad byw ei hun. Rydym ni’n credu bod gan gelf y pŵer i drawsnewid a’i fod yn gallu newid y byd er gwell.
Mae gan Artichoke hanes hir o gynnwys y gymuned leol fel rhan o’n cenhadaeth i wneud celf eithriadol yn hygyrch i bawb, ac i greu profiadau anhygoel sy’n aros yn y dychymyg am byth. Stori am garedigrwydd, dewrder a phŵer lleisiau plant yw Breuddwydion Enfawr. Mae’n rhaglen llythrennedd a chymryd rhan gyfoes sy’n cael ei harwain gan werthoedd ac sydd wedi’i chynllunio i greu profiadau dinesig cynhwysol i blant a theuluoedd ledled y DU.
Dulliau llywodraethu a rheoli mewnol Artichoke:
- Mae Bwrdd ac uwch dîm rheoli Artichoke wedi ystyried goblygiadau cyflawni prosiect sy’n seiliedig ar Dahl o ran enw da a moeseg.
- Rydym wedi cytuno ar negeseuon cyhoeddus clir os bydd pryderon yn codi.
- Mae egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a diogelu wedi’u gwreiddio ar draws pob agwedd ar ddylunio a chyflawni’r prosiect.
- Rydym yn sicrhau bod artistiaid, hwyluswyr a phartneriaid yn deall y cyd-destun hanesyddol a’n disgwyliadau o ran ymarfer cynhwysol.
Gweithio mewn partneriaeth
Mae’r Roald Dahl Story Company wedi ymddiheuro’n gyhoeddus am sylwadau gwrthsemitaidd Dahl ac wedi condemnio hiliaeth gwrth-Iddewig a phob math o ragfarn. Maent wedi ymgysylltu â sefydliadau arbenigol, gan gynnwys yr Antisemitism Policy Trust, ac maent yn parhau i gael hyfforddiant a chanllawiau. Rydym yn cyd-fynd â’r safbwynt hwn ac yn cynnal deialog agored i sicrhau dull gweithredu cyson, gan gynnwys ymgynghori â’r Antisemitism Policy Trust. Rydym wedi briffio’r Board of Deputies of British Jews, Jewish Leadership Council a PaJeS, ac mae pob un wedi mynegi eu cefnogaeth i’r rhaglen llythrennedd a’r prosiect ehangach.
Rydym yn cydnabod y gallai fod cwestiynau gan bartneriaid ein prosiect, fel awdurdodau lleol, llyfrgelloedd, ysgolion a phartneriaid eraill. Byddwn yn gwneud y canlynol i’w cefnogi:
- Darparu deunyddiau briffio cryno sy’n amlinellu cyd-destun y prosiect a’r negeseuon y cytunwyd arnynt.
- Cynnig sgyrsiau uniongyrchol lle bo hynny’n ddefnyddiol.
- Sicrhau bod y stori, ei themâu a’r plant sy’n cymryd rhan yn ganolog i’r gwaith cyfathrebu â’r cyhoedd, yn hytrach na’r awdur.
- Ymateb yn brydlon ac yn barchus i unrhyw bryderon a godir.
- Datblygu adnoddau ysgol sy’n canolbwyntio ar empathi, parch a gwerthoedd cynhwysol.
Rydym yn deall y gall fod gan rai sefydliadau safbwyntiau gwahanol am gefnogi gwaith sy’n gysylltiedig â Dahl. Rydym yn parchu’r safbwyntiau hynny.
Cafodd y datganiad hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 3 Medi 2026.