Mae Artichoke yn ymwybodol iawn o ddatganiadau gwrthsemitaidd Roald Dahl ac yn eu condemnio’n ddiamod. Mae ei deulu ac RDSC wedi ymddiheuro’n gyhoeddus am y datganiadau hyn.

Nid ydym yn bwriadu bychanu’r hanes hwnnw yng nghyd-destun y prosiect hwn. Fel elusen sy’n atebol i’r cyhoedd ac sy’n gweithio gyda phlant, cymunedau a phartneriaid cenedlaethol, rydym yn cymryd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o ddifri ac rydym yn gwrthod hiliaeth wrth-Iddewig. Mae’r artistiaid a’r contractwyr rydym yn gweithio gyda nhw yn glynu wrth ein polisi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae staff Artichoke wedi cael hyfforddiant gwrthsemitiaeth fel rhan o’r paratoadau ar gyfer y prosiect hwn.

Mae prosiect Breuddwydion Enfawr wedi’i ysbrydoli gan y Cawr Mawr Mwyn gan Roald Dahl, ac mae’n canolbwyntio ar blant, ac ar lythrennedd, goddefgarwch a chydlyniant cymdeithasol. Gellir defnyddio llenyddiaeth, adrodd straeon a diwylliant i hyrwyddo cymryd rhan, empathi a gwerthoedd dinesig a rennir. Gan roi cyfle i bobl ifanc ddeall y niwed a achosir gan wrthsemitiaeth yr awdur, byddwn yn mynd i’r afael â goddefgarwch, empathi a gwerthoedd dinesig a rennir yn uniongyrchol drwy ein gwaith mewn ysgolion, yn y gymuned ac yn y digwyddiad byw ei hun. Rydym ni’n credu bod gan gelf y pŵer i drawsnewid a’i fod yn gallu newid y byd er gwell.

Mae gan Artichoke hanes hir o gynnwys y gymuned leol fel rhan o’n cenhadaeth i wneud celf eithriadol yn hygyrch i bawb, ac i greu profiadau anhygoel sy’n aros yn y dychymyg am byth. Stori am garedigrwydd, dewrder a phŵer lleisiau plant yw Breuddwydion Enfawr. Mae’n rhaglen llythrennedd a chymryd rhan gyfoes sy’n cael ei harwain gan werthoedd ac sydd wedi’i chynllunio i greu profiadau dinesig cynhwysol i blant a theuluoedd ledled y DU.

Dulliau llywodraethu a rheoli mewnol Artichoke:

  • Mae Bwrdd ac uwch dîm rheoli Artichoke wedi ystyried goblygiadau cyflawni prosiect sy’n seiliedig ar Dahl o ran enw da a moeseg.
  • Rydym wedi cytuno ar negeseuon cyhoeddus clir os bydd pryderon yn codi.
  • Mae egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a diogelu wedi’u gwreiddio ar draws pob agwedd ar ddylunio a chyflawni’r prosiect.
  • Rydym yn sicrhau bod artistiaid, hwyluswyr a phartneriaid yn deall y cyd-destun hanesyddol a’n disgwyliadau o ran ymarfer cynhwysol.

 

Gweithio mewn partneriaeth

Mae’r Roald Dahl Story Company wedi ymddiheuro’n gyhoeddus am sylwadau gwrthsemitaidd Dahl ac wedi condemnio hiliaeth gwrth-Iddewig a phob math o ragfarn. Maent wedi ymgysylltu â sefydliadau arbenigol, gan gynnwys yr Antisemitism Policy Trust, ac maent yn parhau i gael hyfforddiant a chanllawiau. Rydym yn cyd-fynd â’r safbwynt hwn ac yn cynnal deialog agored i sicrhau dull gweithredu cyson, gan gynnwys ymgynghori â’r Antisemitism Policy Trust. Rydym wedi briffio’r Board of Deputies of British Jews, Jewish Leadership Council a PaJeS, ac mae pob un wedi mynegi eu cefnogaeth i’r rhaglen llythrennedd a’r prosiect ehangach.

Rydym yn cydnabod y gallai fod cwestiynau gan bartneriaid ein prosiect, fel awdurdodau lleol, llyfrgelloedd, ysgolion a phartneriaid eraill. Byddwn yn gwneud y canlynol i’w cefnogi:

  • Darparu deunyddiau briffio cryno sy’n amlinellu cyd-destun y prosiect a’r negeseuon y cytunwyd arnynt.
  • Cynnig sgyrsiau uniongyrchol lle bo hynny’n ddefnyddiol.
  • Sicrhau bod y stori, ei themâu a’r plant sy’n cymryd rhan yn ganolog i’r gwaith cyfathrebu â’r cyhoedd, yn hytrach na’r awdur.
  • Ymateb yn brydlon ac yn barchus i unrhyw bryderon a godir.
  • Datblygu adnoddau ysgol sy’n canolbwyntio ar empathi, parch a gwerthoedd cynhwysol.

Rydym yn deall y gall fod gan rai sefydliadau safbwyntiau gwahanol am gefnogi gwaith sy’n gysylltiedig â Dahl. Rydym yn parchu’r safbwyntiau hynny.

Cafodd y datganiad hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 3 Medi 2026.