• Oes angen i’r disgyblion ddarllen Y Cawr Mawr Mwyn?

    Nid yw’n hanfodol bod disgyblion wedi darllen neu’n ymwybodol o’r stori cyn i’r prosiect ddechrau, ond gallai helpu i greu’r cyffro. Bydd crynodeb o’r stori ar gael yn yr adnoddau i addysgwyr i sicrhau bod gan y disgyblion gyd-destun ar gyfer y prosiect maent yn cymryd rhan ynddo.  

  • Pwy all gymryd rhan?

    Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwyr oedran ysgol gynradd ac mae’n agored i blant sy’n dysgu mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys ysgolion, addysg yn y cartref a darpariaethau addysg amgen.

    Addysg gynradd ledled y DU:

    • Lloegr, Y1 – Y6
    • Cymru, Y1 – Y6
    • Yr Alban, P2 – P7
    • Gogledd Iwerddon, P3 – P7
  • Oes rhaid talu ffi i gymryd rhan?

    Na, mae modd cymryd rhan yn y rhaglen yn rhad ac am ddim.

  • Oes angen unrhyw beth arnaf i gymryd rhan?

    Bydd yr adnodd ar gael naill ai fel rhaglen ddigidol, ryngweithiol neu fersiwn y gellir ei llwytho i lawr a’i hargraffu. Bydd angen cyfrifiadur neu ddyfais arnoch sy’n gallu chwarae fideo a sain er mwyn cael mynediad at y rhaglen ddigidol ryngweithiol. Bydd disgyblion yn gweithio tuag at yr un canlyniadau ar y ddau fersiwn 

  • Pa ddeilliannau dysgu a chwricwlwm sy’n cael sylw yn yr adnoddau.

    Mae’r prosiect yn cyd-fynd yn dda â blaenoriaethau’r cwricwlwm yn y meysydd dysgu allweddol hyn: 

    Darllen, llafaredd a chyfathrebu, ysgrifennu creadigol, daearyddiaeth a lle, datblygiad personol a dyheadau, a golygu a myfyrio.

    Diolch i arweiniad gan the National Literacy Trust ac addysgwyr ledled y DU, rydym wedi sicrhau bod deilliannau dysgu yn gweithio o fewn fframweithiau addysg Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. 

    Bydd gwybodaeth fanylach am y tasgau a deilliannau penodol y cwricwlwm ar gael ym mis Tachwedd.  

  • Pa adnoddau DPP fydd yn cael eu darparu?

    Bydd adnoddau DPP am ddim yn cael eu darparu i athrawon ganol mis Tachwedd ar ffurf ddigidol, gyda fideo.

    Ym mis Ionawr, cynhelir sesiynau byw ar-lein i ateb cwestiynau am y rhaglen a’r adnoddau.

  • Beth os byddaf i’n cael unrhyw gwestiynau am wrthsemitiaeth Roald Dahl?

    Mae Artichoke yn ymwybodol iawn o ddatganiadau gwrthsemitaidd Roald Dahl ac yn eu condemnio’n ddiamod. Mae ei deulu a’r Roald Dahl Story Company wedi ymddiheuro’n gyhoeddus am y datganiadau hyn. Fel elusen sy’n atebol i’r cyhoedd ac sy’n gweithio gyda phlant, cymunedau a phartneriaid cenedlaethol, rydym yn cymryd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o ddifri ac rydym yn gwrthod hiliaeth wrth-Iddewig.

    Mae hwn yn brosiect sy’n canolbwyntio ar blant, ac ar lythrennedd, goddefgarwch a chydlyniant cymdeithasol. Gellir defnyddio llenyddiaeth, adrodd straeon a diwylliant i hyrwyddo cymryd rhan, empathi a gwerthoedd dinesig a rennir. Rydym yn ymgynghori â’r Antisemitism Policy Trust ac yn briffio’r Board of Deputies of British Jews, Jewish Leadership Council a PaJeS am y prosiect.

    Anogir addysgwyr sy’n cymryd rhan i gyfeirio at ein datganiad gwrthsemitiaeth llawn wrth fynd i’r afael ag unrhyw bryderon neu gwestiynau a allai godi. Gallwch ddarllen ein datganiad Gwrthsemitiaeth llawn yma. Bydd yr adnodd i athrawon hefyd yn cynnwys dolenni ar gyfer adnoddau allanol perthnasol a rhagor o ddeunyddiau dysgu am wrthsemitiaeth, a allai fod yn ddefnyddiol i addysgwyr.