-
Pryd mae’r rhaglen yn cael ei chynnal?
Mae’r rhaglen yn dechrau ar 22 Chwefror 2027 ac yn dod i ben ar 25 Mawrth 2027.
-
Faint o amser mae’n ei gymryd i gwblhau'r adnodd?
Mae modd addasu’r adnodd yn llwyr i weithio i chi, gyda hyd at bum tasg ar gael i’w hymgorffori yng nghynlluniau eich dosbarth. Gallwch ddewis cymryd rhan mewn cyn lleied â dwy neu bob un o’r pum tasg. Bydd gennych bum wythnos i gwblhau’r gweithgareddau.
-
Oes angen i’r disgyblion ddarllen Y Cawr Mawr Mwyn?
Nid yw’n hanfodol bod disgyblion wedi darllen neu’n ymwybodol o’r stori cyn i’r prosiect ddechrau, ond gallai helpu i greu’r cyffro. Bydd crynodeb o’r stori ar gael yn yr adnoddau i addysgwyr i sicrhau bod gan y disgyblion gyd-destun ar gyfer y prosiect maent yn cymryd rhan ynddo.
-
Pwy all gymryd rhan?
Mae’r adnodd hwn ar gyfer addysgwyr ysgolion cynradd mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol ledled y DU, sy’n gweithio ar draws cwricwla cynradd Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae croeso i Ddarparwyr Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd sy’n gweithio gyda gwahanol grwpiau oedran, gan gynnwys y rheini sydd y tu allan i’r ystod oedran a restrir isod, gymryd rhan os ydych chi’n teimlo bod lefelau llythrennedd y plant yn addas ar gyfer y rhaglen hon. Mae’r adnodd yn cael ei arwain gan athrawon ac mae ar gael i blant oed cynradd fel y nodir isod.
- Lloegr: CA1 a CA2 (5 – 11 oed)
- Gogledd Iwerddon: CA1 a CA2 (6 – 11 oed)
- Yr Alban: Lefel Gyntaf a’r Ail Lefel (5 – 11 oed)
- Cymru: Camau 2 a 3 (5 – 11 oed)
-
Oes rhaid talu ffi i gymryd rhan?
Na, mae modd cymryd rhan yn y rhaglen yn rhad ac am ddim.
-
Oes angen unrhyw beth arnaf i gymryd rhan?
Bydd yr adnodd ar gael naill ai fel rhaglen ddigidol, ryngweithiol neu fersiwn y gellir ei llwytho i lawr a’i hargraffu. Bydd angen cyfrifiadur neu ddyfais arnoch sy’n gallu chwarae fideo a sain er mwyn cael mynediad at y rhaglen ddigidol ryngweithiol. Bydd disgyblion yn gweithio tuag at yr un canlyniadau ar y ddau fersiwn
-
Sut rydw i’n cael gafael ar yr adnodd?
Bydd yr adnodd yn fyw o ddydd Llun 22 Chwefror yn y ddau fformat a nodir isod:
DIGIDOL
Bydd arnoch angen cyfrifiadur sy’n gallu chwarae fideos gyda sain ac sy’n gallu rhyngweithio drwy defnyddio bysellfwrdd. Bydd addysgwyr sy’n cymryd rhan yn cael manylion mewngofnodi i gael mynediad at y fersiwn digidol yn nes at y dyddiad.
Mae’r adnoddau digidol yn cynnwys fideos, sgwrs “negeseuon” ryngweithiol gyda llyfrgellydd a nodiadau llais.
ARGRAFFADWY
Bydd modd llwytho’r rhain i lawr o’n gwefan mewn du a gwyn er mwyn eu hargraffu’n rhwydd.
-
Mae gan fy nisgyblion anghenion addysgol gwahanol. A fydd cynnwys y rhaglen yn gynhwysol i’w hanghenion?
Darperir yr adnoddau gydag addasiadau er mwyn i chi allu dewis y lefel briodol ar gyfer gallu eich disgyblion.
-
Pam mae’r adnoddau llythrennedd yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg ond nid Gaeleg, Gwyddeleg nac ieithoedd eraill y DU?
Mae gan Gymru system drochi sydd wedi’i hintegreiddio’n llawn ac mae tua un disgybl o bob pump yng Nghymru yn cael ei addysg mewn ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae’r adnoddau llythrennedd wedi cael eu cynhyrchu yn Gymraeg ac yn Saesneg er mwyn i ysgolion cyfrwng Cymraeg allu cymryd rhan lawn yn y rhaglen.
-
Sut rydym yn mynd i'r afael â hygyrchedd?
Bydd yr adnodd ar gael mewn dau fersiwn i gefnogi gwahanol grwpiau oedran a lefelau cwricwlwm:
- Disgyblion iau: CA1 / Lefel Gyntaf / Cam 2
- Disgyblion hŷn: CA2 / Ail Lefel / Cam 3
Mae’r gweithgareddau wedi’u cynllunio gan ddefnyddio dull addysgu cynhwysol ac addasol, gan sicrhau bod pob disgybl yn gallu cymryd rhan a llwyddo.
Gall athrawon addasu’r dysgu drwy amrywiaeth o strategaethau cefnogi a herio wedi’u hymgorffori, gan gynnwys awgrymu geirfa, banciau geiriau, bonion brawddegau a chymorth gweledol. Mae cyfleoedd ar gyfer arweiniad ychwanegol wedi’u plethu drwy’r adnoddau, gyda phrif opsiynau opsiynau sgaffaldio ac opsiynau ymestyn.
Bydd capsiynau ar yr holl gynnwys fideo; bydd angen i addysgwyr neu ddisgyblion leisio rhai elfennau. Bydd adnoddau y gellir eu llwytho i lawr ar gael mewn print bras ac mewn du a gwyn er mwyn eu hargraffu’n rhwydd. Mae holl gynnwys Rhaglen Llythrennedd y Cawr Mawr Mwyn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd rhagor o wybodaeth am gael gafael ar yr adnoddau hyn ar gael y flwyddyn nesaf.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, sydd heb gael sylw yma, am gael gafael ar yr adnoddau mae croeso i chi gysylltu â ni.
-
Pa ddeilliannau dysgu a chwricwlwm sy’n cael sylw yn yr adnoddau.
Mae’r prosiect yn cyd-fynd yn dda â blaenoriaethau’r cwricwlwm yn y meysydd dysgu allweddol hyn:
Darllen, llafaredd a chyfathrebu, ysgrifennu creadigol, daearyddiaeth a lle, datblygiad personol a dyheadau, a golygu a myfyrio.
Diolch i arweiniad gan the National Literacy Trust ac addysgwyr ledled y DU, rydym wedi sicrhau bod deilliannau dysgu yn gweithio o fewn fframweithiau addysg Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Bydd gwybodaeth fanylach am y tasgau a deilliannau penodol y cwricwlwm ar gael ym mis Tachwedd.
-
Pa adnoddau DPP fydd yn cael eu darparu?
Bydd hwn yn cael ei ddarparu fel fideo gyda chymorth ysgrifenedig a bydd ar gael unrhyw bryd o’r dyddiad hwn ymlaen. Bydd Toby Peach, sy’n creu ein hadnoddau, hefyd yn cynnal cymorthfeydd ar-lein ym mis Ionawr 2027 ar gyfer y rheini sydd â chwestiynau neu sydd angen rhagor o gymorth.
Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn ein cymorthfeydd ar gael ym mis Ionawr 2027.
-
Beth os byddaf i’n cael unrhyw gwestiynau am wrthsemitiaeth Roald Dahl?
Mae Artichoke yn ymwybodol iawn o ddatganiadau gwrthsemitaidd Roald Dahl ac yn eu condemnio’n ddiamod. Mae ei deulu a’r Roald Dahl Story Company wedi ymddiheuro’n gyhoeddus am y datganiadau hyn. Fel elusen sy’n atebol i’r cyhoedd ac sy’n gweithio gyda phlant, cymunedau a phartneriaid cenedlaethol, rydym yn cymryd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o ddifri ac rydym yn gwrthod hiliaeth wrth-Iddewig.
Mae hwn yn brosiect sy’n canolbwyntio ar blant, ac ar lythrennedd, goddefgarwch a chydlyniant cymdeithasol. Gellir defnyddio llenyddiaeth, adrodd straeon a diwylliant i hyrwyddo cymryd rhan, empathi a gwerthoedd dinesig a rennir. Rydym yn ymgynghori â’r Antisemitism Policy Trust ac yn briffio’r Board of Deputies of British Jews, Jewish Leadership Council a PaJeS am y prosiect.
Anogir addysgwyr sy’n cymryd rhan i gyfeirio at ein datganiad gwrthsemitiaeth llawn wrth fynd i’r afael ag unrhyw bryderon neu gwestiynau a allai godi. Gallwch ddarllen ein datganiad Gwrthsemitiaeth llawn yma. Bydd yr adnodd i athrawon hefyd yn cynnwys dolenni ar gyfer adnoddau allanol perthnasol a rhagor o ddeunyddiau dysgu am wrthsemitiaeth, a allai fod yn ddefnyddiol i addysgwyr.
-
Alla i ddefnyddio'r adnodd hwn i asesu
Darperir y deilliannau dysgu i helpu addysgwyr i benderfynu a yw’r adnodd hwn yn addas ar gyfer eu hamcanion asesu.