Beth yw’r Rhaglen?
Mae Artichoke wedi ymuno â’r National Literacy Trust i greu’r rhaglen gyffrous hon. Mae wedi’i chynllunio i fodloni deilliannau cwricwlwm llythrennedd ledled y DU a’r nod yw ennyn diddordeb pobl ifanc mewn darllen ac ysgrifennu er mwyn iddynt fwynhau a dysgu. Bydd disgyblion yn defnyddio adnodd digidol y mae modd ei lwytho i lawr, a ddatblygwyd gan Toby Peach a Kit Theatre, i gymryd rhan mewn cyrch i helpu’r Cawr Mawr Mwyn i gasglu breuddwydion drwy gwblhau gweithgareddau creadigol a llythrennedd.
Wrth galon y rhaglen hon mae rhaglen uchelgeisiol i gasglu breuddwydion a fydd yn cipio dychymyg a llais unigryw degau o filoedd o bobl ifanc. Ar ôl cwblhau cyrch y Cawr Mawr Mwyn, bydd breuddwydion yn cael eu casglu ynghyd a’u llwytho i fyny i wefan y rhaglen, gan gofnodi ciplun cenedlaethol o’u straeon.
| Cost: |
|
Mae’n RHAD AC AM DDIM i gymryd rhan.
|
| Dyddiadau: |
|
Bydd y rhaglen yn cael ei chynnal rhwng 22 Chwefror a 25 Mawrth 2027.
|
| Cwmpas: |
|
Mae’n agored i fyfyrwyr oed cynradd unigol, neu fel dosbarth a chyrff ysgol cyfan.
|
| Cymhwysedd: |
|
Ledled y DU ar gyfer y blynyddoedd canlynol:
Lloegr: Y1 – Y6
Yr Alban: P2 – P7
Cymru: Y1 – Y6
Gogledd Iwerddon: P3 – P7
|
| Adnoddau: |
|
Bydd adnoddau cynllunio a datblygiad proffesiynol parhaus ar gael ganol mis Tachwedd 2026.
|
Cofrestru i Gymryd Rhan
Mae angen cofrestru i gymryd rhan. Llenwch y ffurflen isod i gofrestru eich diddordeb ac i gael rhagor o wybodaeth am gymryd rhan. Dewch â hud enfawr adrodd straeon i’ch ystafell ddosbarth ochr yn ochr ag addysgwyr o’n pedair gwlad.
Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau hygyrchedd neu dechnegol â’r ffurflen blanedig uchod, agorwch y ffurflen mewn ffenestr newydd drwy glicio yma.
Os hoffech gael cymorth ychwanegol i gofrestru, os oes arnoch angen y ffurflen hon mewn fformat gwahanol, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm Dysgu a Chymryd Rhan Artichoke yn Participation@Artichoke.uk.com.
Dyddiadau Pwysig
17 Medi 2026: Cofrestru’n dechrau
Diwedd Hydref 2026: Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei hanfon at bawb sydd wedi cofrestru, gan gynnwys deilliannau manwl y cwricwlwm a manylion y dasg er mwyn i chi allu dechrau paratoi eich cynlluniau dosbarth ar gyfer Gwanwyn 2027
Canol Tachwedd 2026: DPP ar gael
22 Ionawr 2027: Dyddiad cau cofrestru
22 Chwefror 2027: Dechrau’r rhaglen
25 Mawrth 2027: Diwedd y rhaglen
Cwestiynau Cyffredin
Cynhyrchir Breuddwydion Enfawr y Cawr Mawr Mwyn ar y cyd â’r Roald Dahl Story Company ac mewn partneriaeth â’r National Literacy Trust.
Mae Artichoke yn ymwybodol iawn o ddatganiadau gwrthsemitaidd Roald Dahl ac yn eu condemnio’n ddiamod. Mae ei deulu a’r Roald Dahl Story Company wedi ymddiheuro’n gyhoeddus am y datganiadau hyn. Darllenwch ein datganiad Gwrthsemitiaeth llawn yma.
Oes gennych chi ragor o gwestiynau? Tarwch olwg ar ein Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch â thîm Dysgu a Chymryd Rhan Artichoke yn Participation@Artichoke.uk.com.
Cefnogir Breuddwydion Anferth y Cawr Mawr Mwyn gan:
Arts Council England, Bloomberg, Backstage Trust, Garfield Weston Foundation, Deborah Loeb Brice Donor Advised Fund a Hugh Fraser Foundation.