Ymunwch â Rhaglen Llythrennedd y Cawr Mawr Mwyn

Mae Artichoke, ar y cyd â’r Roald Dahl Story Company, yn gwahodd pob ysgol gynradd a darparwr addysg o bob cwr o’r DU i gymryd rhan mewn rhaglen llythrennedd newydd gyffrous, wedi’i hysbrydoli gan y Cawr Mawr Mwyn.

Bydd y rhaglen yn cael ei lansio ym mis Chwefror 2027 mewn partneriaeth â’r National Literacy Trust, a bydd yn ennyn diddordeb pobl ifanc ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

View this page in English here.

Beth yw’r Rhaglen?

Mae Artichoke wedi ymuno â’r National Literacy Trust i greu’r rhaglen gyffrous hon. Mae wedi’i chynllunio i fodloni deilliannau cwricwlwm llythrennedd ledled y DU a’r nod yw ennyn diddordeb pobl ifanc mewn darllen ac ysgrifennu er mwyn iddynt fwynhau a dysgu. Bydd disgyblion yn defnyddio adnodd digidol y mae modd ei lwytho i lawr, a ddatblygwyd gan Toby Peach a Kit Theatre, i gymryd rhan mewn cyrch i helpu’r Cawr Mawr Mwyn i gasglu breuddwydion drwy gwblhau gweithgareddau creadigol a llythrennedd.

Wrth galon y rhaglen hon mae rhaglen uchelgeisiol i gasglu breuddwydion a fydd yn cipio dychymyg a llais unigryw degau o filoedd o bobl ifanc. Ar ôl cwblhau cyrch y Cawr Mawr Mwyn, bydd breuddwydion yn cael eu casglu ynghyd a’u llwytho i fyny i wefan y rhaglen, gan gofnodi ciplun cenedlaethol o’u straeon.

 

Cost:

 

Mae’n RHAD AC AM DDIM i gymryd rhan.

Dyddiadau:

 

Bydd y rhaglen yn cael ei chynnal rhwng 22 Chwefror a 25 Mawrth 2027.

Cwmpas:

 

Mae’n agored i fyfyrwyr oed cynradd unigol, neu fel dosbarth a chyrff ysgol cyfan.

Cymhwysedd:

 

Ledled y DU ar gyfer y blynyddoedd canlynol:

Lloegr: Y1 – Y6

Yr Alban: P2 – P7 

Cymru: Y1 – Y6

Gogledd Iwerddon: P3 – P7

Adnoddau:

 

Bydd adnoddau cynllunio a datblygiad proffesiynol parhaus ar gael ganol mis Tachwedd 2026.

 

 

Cofrestru i Gymryd Rhan

Mae angen cofrestru i gymryd rhan. Llenwch y ffurflen isod i gofrestru eich diddordeb ac i gael rhagor o wybodaeth am gymryd rhan. Dewch â hud enfawr adrodd straeon i’ch ystafell ddosbarth ochr yn ochr ag addysgwyr o’n pedair gwlad.

 

Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau hygyrchedd neu dechnegol â’r ffurflen blanedig uchod, agorwch y ffurflen mewn ffenestr newydd drwy glicio yma.

Os hoffech gael cymorth ychwanegol i gofrestru, os oes arnoch angen y ffurflen hon mewn fformat gwahanol, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm Dysgu a Chymryd Rhan Artichoke yn Participation@Artichoke.uk.com.

 

Dyddiadau Pwysig

17 Medi 2026: Cofrestru’n dechrau

Diwedd Hydref 2026: Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei hanfon at bawb sydd wedi cofrestru, gan gynnwys deilliannau manwl y cwricwlwm a manylion y dasg er mwyn i chi allu dechrau paratoi eich cynlluniau dosbarth ar gyfer Gwanwyn 2027

Canol Tachwedd 2026: DPP ar gael

22 Ionawr 2027: Dyddiad cau cofrestru

22 Chwefror 2027: Dechrau’r rhaglen

25 Mawrth 2027: Diwedd y rhaglen

 

Cwestiynau Cyffredin

Cynhyrchir Breuddwydion Enfawr y Cawr Mawr Mwyn ar y cyd â’r Roald Dahl Story Company ac mewn partneriaeth â’r National Literacy Trust.

Mae Artichoke yn ymwybodol iawn o ddatganiadau gwrthsemitaidd Roald Dahl ac yn eu condemnio’n ddiamod. Mae ei deulu a’r Roald Dahl Story Company wedi ymddiheuro’n gyhoeddus am y datganiadau hyn. Darllenwch ein datganiad Gwrthsemitiaeth llawn yma.

Oes gennych chi ragor o gwestiynau? Tarwch olwg ar ein Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch â thîm Dysgu a Chymryd Rhan Artichoke yn Participation@Artichoke.uk.com.

 

Cefnogir Breuddwydion Anferth y Cawr Mawr Mwyn gan:

Arts Council England, Bloomberg, Backstage Trust, Garfield Weston Foundation, Deborah Loeb Brice Donor Advised Fund a Hugh Fraser Foundation.

 

 

Ar y cyd â’r
Roald Dahl Story Company

Roald Dahl Story Company

 

Mewn partneriaeth â’r
National Literacy Trust

National Literacy Trust, change your story